John EsaiahJAMESYn gynnar ar fore ddydd Mercher 1af o Fai 2024 fe hunodd yn dawel yng Nghartref Glan Rhos, Brynsiencyn yn 91 mlwydd oed. Gynt o Garth Celyn, Cae Gadlas, Y Bala ac yn wreiddiol o'r Twyn, Garnant; priod annwyl y diweddar Beti a thad a thad-yng-nghyfraith gariadus Eleri a So, Lowri a Dewi; taid arbennig Dwynwen, Manon, Fflur ac Erin; brawd ffyddlon Aneurin a'r diweddar Kathleen, Doris a Decima; brawd-yng-nghyfraith John (Garnant), John a'r diweddar Lowri (Canada) a'r diweddar Russell. Cyn Gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd, cyn Faer ac athro mathemateg yn y Bala. Colled drist i'w deulu, cymdogion a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Llun, 13eg o Fai 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist, Y Bala am 1 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanycil. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig tuag at Ymchwil Canser trwy law'r ymgymerwr A G Evans a'i Feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Old Station Yard, Y Bala LL23 7NL Ffôn: 01678 520660.
John Esaiah JAMES
Passed away peacefully early on Wednesday morning 1st of May 2024 in Glan Rhos Nursing Home, Brynsiencyn at 91 years of age. Previously of Garth Celyn, Cae Gadlas, Y Bala and originally from Twyn, Garnant; loving husband of the late Beti, caring father and father-in-law of Eleri and So, Lowri and Dewi; doting grandfather of Dwynwen, Manon, Fflur and Erin; loyal brother to Aneurin and the late Kathleen, Doris and Decima; brother-in-law to John (Garnant), John and the late Lowri (Canada) and the late Russell. Past Chairman of Gwynedd County Council, past Mayor and teacher of mathematics in Bala. A sad loss to all family, neighbours and friends. Funeral to be held on Monday, 13th of May 2024. Public service at Christ Church, Ffrydan Road, Y Bala at 1pm and then laid to rest at Llanycil Cemetery. Family flowers only but donations if so desired gratefully received towards Cancer Research c/o A G Evans & Sons, Funeral Directors, Old Station Yard, Y Bala LL23 7NL Tel: 01678 520660.
Notify me with new activity on this notice