Dilys (HIRAETHOG, RHOSYBOL)PARRYDymuna Emlyn, Cefin, Lyn a'r teulu oll ddiolch o waelod calon am y caredigrwydd, y gefnogaeth a'r geiriau o gysur a ddangoswyd iddynt yn ystod eu profedigaeth o golli gwraig, mam a nain a oedd mor arbennig iddynt. Diolch i'r holl deulu a ffrindiau triw a fuodd heibio Hiraethog a diolch hefyd am y llu o gardiau, negeseuon a galwadau ffôn, cyn ac yn dilyn yr angladd. Mae diolch arbennig i Arwel Hughes a'i dîm am eu gwaith proffesiynol ond fwy oll am eu gofal yn ystod amser anodd iawn. Diolch i'r Parchedigion Geraint Roberts a R.O. Jones am arwain y gwasanaeth ar ddydd yr angladd ac i Dylan Parry am ei gyfraniad hyfryd wrth yr organ ac i Wendy Griffiths a ffrindiau am gyd-lynu'r lluniaeth. Diolchiadau diffuant iawn hefyd am y cyfraniadau ariannol a dderbyniwyd er cof am Dil. Casglwyd swm o £2,651 tuag at Tŷ Gobaith a oedd yn elusen oedd yn golygu llawer iddi. Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn.
******** Emlyn, Cefin, Lyn and the family wish to express their heartfelt thanks for the kindness, support and words of comfort shown to them during the loss of a special wife, mother, and grandmother. Thank you to family and friends who visited Hiraethog and thanks also for the many cards, messages, and phone calls, both before and following the funeral. A special thank you to Arwel Hughes and team for their professional work and care during a very difficult time. Thanks to the Reverends Geraint Roberts and R.O. Jones for leading the funeral service; to Dylan Parry, organist; and to Wendy Griffiths and friends for organising the refreshments. Very sincere thanks also for the financial contributions of £2,651 received in memory of Dilys. A very generous sum was collected towards Tŷ Gobaith which was a charity that meant a lot to her. All the support is much appreciated.
Notify me with new activity on this notice